CYPE(5)-20-19- Papur i’w nodi 1
 
 Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
 Bae Caerdydd
  14 Mehefin 2019
 
 
 
 1 Gorffennaf 2020
gwahoddiad gan Senedd Ieuenctid CYmru

Annwyl Gadeirydd,

Ym mis Chwefror, cynhaliodd Senedd Ieuenctid Cymru ei sesiwn gyntaf erioed yn Siambr y Senedd lle bu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn trafod deunaw pwnc gwahanol a gafodd eu nodi’n rhai pwysig i bobl ifanc ledled Cymru. Ar ôl y ddadl, cafodd yr Aelodau gyfle i bleidleisio dros y tri mater yr oeddent am i Senedd Ieuenctid Cymru ganolbwyntio arnynt yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a dewiswyd y rhai a ganlyn - 

1. Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl

2. Sbwriel a Gwastraff Plastig

3. Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm

Ar ôl dewis y tri prif fater, mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi penderfynu y dylent rannu’n bwyllgorau materion unigol. Rhan allweddol o waith pob pwyllgor yw ymgynghori â phobl ifanc eraill, sefydliadau, grwpiau ieuenctid a staff i helpu pob pwyllgor i ddeall y materion yn well, ac i helpu i lywio prif argymhellion Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu dros y cyfnod o ddwy flynedd; bydd y gyfres gyntaf o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ym mis Gorffennaf 2019, a byddant yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, lle byddant yn gobeithio clywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc, a phobl broffesiynol ym maes addysg. Anelwn at gyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a’n hargymhellion ym mis Hydref 2019, a fydd yn cyfrannu at ddatblygu’r cwricwlwm newydd gobeithio.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cynnal gwaith i fonitro datblygiad y cwricwlwm newydd. Fel aelodau o’r Pwyllgor Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm byddem ni’n hoffi eich gwahodd chi, neu gynrychiolydd o’r Pwyllgor, i fod yn bresennol yn y digwyddiadau hyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, y bobl ifanc eraill a’r bobl broffesiynol ym maes addysg a fydd yn bresennol, am waith y Pwyllgor yn y maes hwn. Bydd trafodaeth banel a Hawl i Holi gydag aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Dyma gyfle i chi fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i amlinellu’r gwaith y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud i fonitro datblygiad y Cwricwlwm hyd yma. Byddwn hefyd yn gwahodd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg i gymryd rhan yn y drafodaeth.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a ganlyn. Mae croeso i bob Aelod Cynulliad ddod i’r digwyddiadau hyn.

Dyddiad ac amser

Lleoliad

Dydd Llun 8 Gorffennaf 2019

10:00-14:30

Cinio rhwng 12.30 a 13.30

Stadiwm Liberty, Abertawe

Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2019
10:00-14:30

Cinio rhwng 12.30 a 13.30

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam

Mae’r amseriad ar gyfer y drafodaeth Banel fel a ganlyn:

 

Amser

Gweithgarwch

10.30-11.15

Trafodaeth banel a Hawl i Holi ag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i drafod y gwaith y maent yn ei wneud ar Sgiliau Bywyd. Dyma gyfle i chi fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i amlinellu’r gwaith y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud i fonitro datblygiad y Cwricwlwm hyd yma. (5 munud )

 

 

 

Os hoffech ddod i’r digwyddiadau, anfonwch neges e-bost at helo@seneddieuenctid.cymru i gadarnhau eich presenoldeb.

Dymuniadau gorau,

 

Aelodau Pwyllgor Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm,

Senedd Ieuenctid Cymru